E-Fwletin Costau Byw Ceredigion
Gweithgareddau gwyliau’r haf am ddim neu gost isel
3. Gweithgareddau haf Canolfannau Hamdden Ceredigion
7. Sesiynau haf Canolfan Jig- So Aberteifi
8. Sesiynau Jig-So allan ac o gwmpas yr Haf
10. Perfformiad piano yn Amgueddfa Ceredigion
11. Gweithgareddau ac anturiaethau awyr agored yng Ngheredigion
12. Taith dywys gydag ieir bach yr haf
13. Cerddoriaeth yn y Stondin Band
15. Gwasanaeth llyfrgell i blant a phobl ifanc
17. Cymorth gofal plant
Canolfan Hamdden Plascrug: Gorffennaf 26ain
Canolfan Hamdden Aberteifi: Awst 14eg
Canolfan Lles Llambed: Awst 22ain
Bydd amryw o dimau Porth Cymorth Cynnar, gan gynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Ceredigion Actif, Chymorth Rhianta a Theulu yn cynnig gweithgareddau a stondinau gwybodaeth am ddim, bydd asiantaethau allanol fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Heddlu Dyfed Powys a llawer o rai eraill yn ymuno â nhw.
Bydd Sioe Deithiol yr Haf yn cynnig cyfleoedd hygyrch i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, ymgysylltu â'r gymuned a chyngor a gwybodaeth i bobl ifanc nad ydynt efallai mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac yn hyrwyddo diwylliant Cymru, byw'n iach a datblygu sgiliau.
Cymerwch ran: Anfonwch e-bost atom yn porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk am fanylion.
Dydd Chwarae RAY
Dros 30 o wahanol stondinau a gweithgareddau am ddim i blant o bob oedran. Diwrnod allan i’r teulu. Dydd Mercher 7fed o Awst, 11.30-3.30, Cae Sgwâr Aberaeron.
Cliciwch ar y blychau isod i weld gweithgaredd Haf Canolfannau Hamdden Ceredigion
Llyw a Byw
Mae Llyw ar Byw yn gaffi ieuenctid symudol a gwasanaeth cymorth wedi staffio gan weithwyr cymorth ieuenctid cymwys.
Bydd Llyw a byw yn gweithredu ar hyd a lled Ceredigion ar sail rota Dydd Mawrth Iau a Sadwrn bob 6 wythnos.
Y tri lleoliad am y 6 wythnos gyntaf yw: Dydd Mawrth 12-6 yn - Clwb Pêl droed Felinfach, Dydd Iau 12-6 yn - Canolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth,
Dydd Sadwrn 12-6 yh - Neuadd Bentref Aberporth.
Home - Start Ceredigion
Mae gan Home-Start ddyddiau teuluol mewn parciau (os yw'r tywydd yn caniatáu, fel arall yn ein lleoliad grŵp arferol) wedi'u trefnu ar y dyddiadau canlynol:
23 Gorffennaf - Coedlan y Parc Aberystwyth 11:00-13:00
24 Gorffennaf - Parc Castell Newydd Emlyn 11:00-13:00
25 Gorffennaf – Parc Llandudoch 11:00-13:00
29 Gorffennaf - Parc Maes y Felyn, Llambed 11:00-13:00
1 Awst - Penrhyncoch 11:00-13:00
5 Awst - Parc Maes y Felyn, Llambed 11:00-13:00
7 Awst - Diwrnod Chwarae Ray Ceredigion
12 Awst - Parc Maes y Felyn, Llambed 11:00-13:00
13 Awst - Parc Hwb Penparcau -11:00-13:00
14 Awst - Parc Llanarth 11:00-13:00
15 Awst - Diwrnod Carnifal Aberporth
Cysylltwch â homestartaberaeron@gmail.com am fwy o wybodaeth.
Canolfannau Teulu
Bydd y canolfannau teuluol yng Ngheredigion yn cynnig cymorth mynediad agored drwy gydol yr haf. Bydd amrywiaeth o weithgareddau rhad ac am ddim a chost isel ar gyfer teuluoedd â phlant hyd at 11 oed yn y canolfannau ac allan yn y gymuned.
Ewch i dudalennau Facebook y ganolfan i weld yr amserlenni diweddaraf a'r manylion cyswllt isod i gael gwybod mwy.
Canolfan Deuluol Llandysul– https://www.facebook.com/canolfandeuluolllandysulfamilycentre
Miles Parker, 07984072922, milesllandysul@plantdewi.co.uk
Canolfan Deuluol Llambed– https://www.facebook.com/profile.php?id=100086308609825
Jennifer Leigh, 07538171721, jenniferlampeter@plantdewi.co.uk
Ceredigion Family Centres
Canolfan Deuluol Tregaron – https://www.facebook.com/canolfan.tregaron
Karli Poole, 07498 521067, karlitregaron@plantdewi.co.uk
Ray Ceredigion – https://www.facebook.com/RAYCeredig
Megan Tomlins, 01545 570 686, rayfamilycentre@rayceredigion.org.uk
Canolfan Blant Jigso – https://www.facebook.com/Jigso.Cardigan
01239 615922, office@jigso.wales
Borth Community hub - https://www.facebook.com/BorthCommunityHub
Helen Williams, 07896 616857, contact@borthfamilycentre.co.uk
Cysylltwch â: office@jigso.wales am fwy o wybodaeth. Cadwch lygaid allan ar eu tudalen Facebook am fwy o sesiynau dros yr haf: www.facebook.com/Jigso.Cardigan
Mannau Croeso Cynnes
Mae sawl man Croeso Cynnes yn cynnig gweithgareddau dros yr haf.
Edrychwch ar y map rhyngweithiol ar wefan y Cyngor i ddod o hyd i’ch Man Croeso Cynnes lleol chi: Mannau Croeso Cynnes Gaeaf 2023-24 – Google My Maps
Ymunwch â’r pianydd Mary Mathews yn y Coliseum bob bore Iau o 11yb am ddim.
Bob dydd Iau mae Mary yn chwarae cymysgedd o ffefrynnau'r teulu. Gan blethu caneuon o sioeau a ffilmiau at ei gilydd mae hi'n gyflym yn creu atgofion o’r amser a fu.
Heb ei rhwymo gan unrhyw genre na chyfnod cerddorol, mae Mary'n archwilio cymysgedd eclectig o donau melodig i berfformio thema o'r wythnos o'i dewis.
Gweithgareddau ac anturiaethau awyr agored yng Ngheredigion
Mae digon o weithgareddau ac anturiaethau yn awyr agored gwych Ceredigion i'w harchwilio am ddim. Mae rhywbeth i bawb yng Ngheredigion gyda'i arfordir a'i dirweddau trawiadol, y bywyd gwyllt cyfoethog, yr amgylchedd glân ac amrywiaeth o weithgareddau awyr agored.
Llwybr Arfordir Ceredigion
Mae'n hawdd archwilio Llwybr Arfordir Ceredigion mewn talpiau bach, gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus cyfleus ar ôl diwrnod o gerdded. Mae 'na ddigon o lwybrau cerdded lleol i'w mwynhau ac mae'n rhad ac am ddim i'r teulu cyfan.
Taith Dywys gydag Ieir Bach yr Haf
Ymunwch â Paul Taylor, cofnodwr sir Ceredigion, ar daith dywys ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2-4pm yn y Borth. Agored i bob oed: £5 i oedolion a gall plant dan 14 oed fynd am ddim. E-bost ynyslas@naturalresourceswales.gov.uk neu ffoniwch 01970 872901 i drefnu.
Cerddoriaeth yn y Stondin Band
Dawnsio Gwerin yn Stondin Band Aberystwyth
Bydd dawnsio gwerin draddodiadol yn Stondin Band Aberystwyth bob dydd Llun 7.30-9.30. Croeso i bawb!
Seindorf Arian Aberystwyth Silver Band
Bydd band Arian Aberystwyth yn chwarae yn y Stondin Band Aberystwyth ar y 9,16, 18, 23, 25,30 o Orffennaf a 6, 8, 13, 20, 22 27 a 29 o Awst 7.30- 9.15, rhad ag am ddim i bawb.
Gŵyl Fwyd Llambed
Mae'r Ŵyl Fwyd eleni ar Ddydd Sadwrn 27ain o Orffennaf 2024. Mae'r Gŵyl Fwyd yn cael ai chynnal ar diroedd hyfryd Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant unwaith yn rhagor, yng nghanol tref Llanbedr Pont Steffan ac am ddim.
Gwasanaeth Llyfrgell i Blant a Phobl Ifanc
Rhowch y dechrau gorau i’ch plentyn chi drwy ddod i’ch llyfrgell leol yma yng Ngheredigion a’i helpu i fod yn ddarllenydd gydol oes. Y cyfan, wrth gwrs, yn rhad ac am ddim! Mae rhagor o wybodaeth ar wasanaeth llyfrgell i Blant a Phobl ifanc ar dudalen we llyfrgell Ceredigion.
Beiciau Balans
Mae beiciau balans ar gael i'w benthyg gan lyfrgelloedd Ceredigion am ddim. Gofynnwch i'ch llyfrgell leol am fwy o wybodaeth.
Plant yn bwyta am ddim
Dyma'r holl fwytai a chaffis (dolen i wefan Saesneg yn unig) sy'n cynnig ‘Plant yn bwyta am ddim’ (neu am £1) yn ystod pob gwyliau ysgol yn y DU yn 2024.
Gofyn am Henry
Mae caffi Morrisons yn ail-lansio'r fenter 'Gofyn am Henry’. O ddydd Llun, Gorffennaf 1af - Gorffennaf 14eg, bydd unrhyw un sy'n "Gofyn am Henry" yn cael taten siaced gyda ffa pob am ddim—ni ofynnir unrhyw gwestiynau.
Cymorth Gofal Plant
Chwilio am Ofal Plant?
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am help i ddewis a dod o hyd i ofal plant Gofal Plant a Chwarae - Cyngor Sir Ceredigion
Neu ewch i'r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Gwybodaeth Gofal Plant Cymru. Mae clybiau gwyliau wedi'u rhestru yma. Efallai y bydd gwarchodwyr plant yn medru cynnig lleoedd mewn rhai ardaloedd.
Help gyda chostau Gofal Plant
Mae gan y rhan fwyaf o deuluoedd hawl i gael rhywfaint o gymorth ariannol tuag at gost gofal plant. I gymharu'r gwahanol ddewisiadau a darganfod â ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau Gofal Plant ewch i Dewisiadau Gofal Plant.
Cofiwch ddewis Cymru gan fod cymorth yn wahanol i gymorth gofal plant Lloegr
Cynnig Gofal Plant
Yn ystod gwyliau'r ysgol, gall plant cymwys dderbyn hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant wedi'i ariannu, am hyd at naw wythnos o wyliau y flwyddyn. Mae hyn yn cael ei archebu drwy eich cyfrif Cynnig Gofal Plant ar-lein. Am fwy o wybodaeth, ewch i Rhieni yn rheoli cytundebau Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU
Ewch i wefan y Cyngor Sir am wybodaeth am gymorth costau byw :