E-Fwletin Costau Byw Ceredigion
Cefnogaeth i'r
Gall Plant Dewi ddarparu'r holl angenrheidiau sy'n gysylltiedig â babanod yn rhad ac am ddim, gan gynnwys pecynnau ar gyfer babanod newydd-anedig, cyflenwadau hanfodol a bwndeli dillad. Ewch i dudalen Banc Bwndel Babi ar wefan Plant Dewi.
Os ydych wedi bod yn feichiog am fwy na 10 wythnos neu os oes gennych blentyn dan 4 oed, efallai fod gennych hawl gael cymorth i brynu bwyd a llaeth iach. Mae’r dudalen Y Cynllun Cychwyn Iach ar wefan y GIG yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Grant Mamolaeth Cychwyn Gadarn
Gallech gael taliad untro o £500 i helpu tuag at gostau cael plentyn. Gelwir hyn yn Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Grant Mamolaeth Cychwyn Gadarn ar wefan y Llywodraeth
Prosiect Cewynnau Go Iawn
Mae Prosiect Cewynnau Go Iawn yn ymgyrch ledled y DU sy'n hyrwyddo'r defnydd o gewynnau y gellir eu hailddefnyddio ac yn darparu gwybodaeth a chyngor diduedd am ddewis cewynnau go iawn i rieni. Maent yn costio llai ac yn well i'r amgylchedd. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Prosiect Cewynnau Go Iawn.
Chwilio am Ofal Plant?
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am help i ddewis a dod o hyd i ofal plant Gofal Plant a Chwarae - Cyngor Sir Ceredigion
Neu ewch i'r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Gwybodaeth Gofal Plant Cymru - Child Care Information Wales
Cymorth Gofal Plant
Cymorth gofal plant i blant 2 oed
Un o fentrau Llywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg. Mae’n darparu cymorth a chyfleoedd i deuluoedd â phlant o dan bedair oed.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cymorth gofal plant ar gyfer eich plentyn 2 oed gyda’n gwiriwr cod post: Dechrau’n Deg - Cyngor Sir Ceredigion
Cefnogaeth gofal plant i blant 3-4 oed
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr yr wythnos o Ddarpariaeth Dysgu Sylfaen (addysg gynnar) a gofal plant wedi ei ariannu ar gyfer rhieni cymwys sydd mewn gwaith ag sydd â phlant 3 a 4 oed, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.
Ewch i'n gwefan am ragor o wybodaeth Cynnig Gofal Plant i Gymru - Cyngor Sir Ceredigion
Help gyda chostau Gofal Plant
Mae gan y rhan fwyaf o deuluoedd hawl i gael rhywfaint o gymorth ariannol tuag at gost gofal plant. I gymharu'r gwahanol ddewisiadau a darganfod a ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau Gofal Plant ewch i Dewisiadau Gofal Plant.
Cofiwch ddewis Cymru gan fod cymorth yn wahanol i gymorth gofal plant Lloegr.
Gwasanaeth Llyfrgell i Blant a Phobl Ifanc
Dydych chi byth yn rhy ifanc i ymuno â’r llyfrgell! Rhowch y dechrau gorau i’ch plentyn chi drwy ddod i’ch llyfrgell leol yma yng Ngheredigion a’i helpu i fod yn ddarllenydd gydol oes. Y cyfan, wrth gwrs, yn rhad ac am ddim! Mae rhagor o wybodaeth ar wasanaeth llyfrgell i Blant a Phobl ifanc ar dudalen we llyfrgell Ceredigion.
Amser Stori a Chân i Fabanod a Phlant dan 5 oed
Sesiynau hwylus wythnosol yw’r rhain sy’n annog rhannu llyfrau gyda’ch plentyn, gan ddefnyddio caneuon, rhigymau a symudiadau i ddatblygu sgiliau iaith a sgiliau cymdeithasol. Mae rhieni hefyd yn elwa ar y cyfle i wneud ffrindiau newydd drwy ddod i’r sesiynau hwyliog hyn.
Mae Sesiwn Stori'n cael ei chynnal yn Llyfrgell Aberystwyth bob prynhawn dydd Mawrth rhwng 2:00yp - 2:30yp.
Dechrau Da
Ariennir y rhaglen Dechrau Da gan Lywodraeth Cymru.
Mae hwn yn gynllun cenedlaethol sy’n cael ei gydlynu gan Booktrust Cymru.
Mae llyfrgelloedd Ceredigion yn cydweithio gydag Ymwelwyr Iechyd lleol mewn clinigau babanod er mwyn darparu pecynnau o lyfrau am ddim i fabanod 7 i 9 mis oed ac i bob plentyn 18-24 mis oed, gan helpu teuluoedd i ddarganfod a mwynhau’r hwyl o rannu llyfrau gyda’i gilydd.
Cymraeg i blant
Mudiad Meithryn sy'n rhedeg y cynllun Cymraeg i Blant, mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru..
Mae Cymraeg i Blant Ceredigion yn cynnal nifer o wahanol grwpiau ar gyfer plant, gyda’r nod o hyrwyddo dysgu a defnyddio’r Gymraeg ymhlith plant a’u rheini.
Edrychwch ar dudalen Cymraeg i Blant i ddod o hyd i’r sesiwn agosaf atoch chi.
Mannau Croeso Cynnes
Mae sawl man Croeso Cynnes yn cynnig byrbrydau a gweithgareddau penodol i deuluoedd a phlant ifanc yn ystod tymhorau'r ysgol.
Edrychwch ar y map rhyngweithiol ar wefan y Cyngor i ddod o hyd i’ch Man Croeso Cynnes lleol chi: Mannau Croeso Cynnes Gaeaf 2023-24 – Google My Maps
Canolfannau Teulu
Mae chwe Chanolfan Deuluol yng Ngheredigion. Maent yn cynnig gweithgareddau am ddim i rieni â phlant ifanc a chyfle i gwrdd â rhieni eraill.
Mae eu manylion cyswllt ar dudalen we Canolfannau teulu
Ewch i wefan y Cyngor Sir am wybodaeth am gymorth costau byw : Cymorth Costau Byw - Cyngor Sir Ceredigion
Bydd y E-fwletin nesa’ yn dod allan ar 5ed o Orffennaf.
Byddwn yn ffocysu ar ‘Costau teuluol trwy'r gwyliau’
Os oes gennych wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys anfonwch at Clic neu ffoniwch 01545 570881