E-Fwletin Costau Byw Ceredigion
‘Cymorth i bobl ifanc- addysg ariannol’
4. Cynnal eich hun yn ariannol – canllaw i oedolion ifanc 16 i 24 oed
6. Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
7. Dewch o hyd i'r cyfrif banc myfyrwyr perffaith
9. Isafswm Cyflog Cenedlaethol
10. Arian myfyrwyr a graddedigion
11. Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach ac uwch
14. Urddas Mislif yng Nghymunedau Ceredigion
15. Cymorth am ddim gyda sgiliau rhifedd
Os yw eich plentyn eisoes yn cael Cinio Ysgol Am Ddim, efallai y bydd mwy o help ariannol ar gael gyda Grant Hanfodion Ysgol.
Gall hwn helpu gyda hanfodion fel gwisg ysgol ac offer i sicrhau bod eich plentyn yn barod ar gyfer y diwrnod ysgol.
Gallech fod â hawl i help ariannol o hyd at £200 ar gyfer:
Cinio Ysgol Am Ddim
Os yw eich amgylchiadau wedi newid yn ddiweddar, neu os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol, efallai y gallai eich plentyn gael Cinio Ysgol Am Ddim.
Mae Cinio Ysgol Am Ddim yn hybu bwyta'n iach, yn cynyddu'r amrywiaeth o fwyd y gallai eich plentyn ei fwyta, a gall wella ei ymddygiad a'i sgiliau cymdeithasol.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael Cinio Ysgol Am Ddim, gallai eich ysgol dderbyn cyllid ychwanegol.
Clwb Brecwast am Ddim
Nod y cynllun Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd yw darparu brecwast iach i blant cyn dechrau'r diwrnod ysgol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd: gwybodaeth i rieni a gofalwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.
Pan ddechreuwch gynnal eich hun yn ariannol, mae llawer o bethau i feddwl amdanynt.
Er gall ymddangos yn gymhleth, yn y canllaw hwn rydym wedi rhestru’r pethau mwyaf pwysig i’w ystyried, a’ch cyfeirio at canllawiau gorau i’ch helpu i fynd ar y trywydd cywir gyda’ch arian.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn daliad wythnosol o £40 i helpu rhai 16-18 oed i helpu gyda chostau addysg bellach.
Gwneir taliadau pob pythefnos cyn belled â’ch bod yn bodloni gofynion presenoldeb eich coleg.
Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, mae’n bosibl bod arian annisgwyl yn aros amdano!
Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo hirdymor sy’n rhydd o dreth – ac yn werth £2,000 ar gyfartaledd. Os na wnaethoch agor y cyfrif, mae’n bosib bod CThEF wedi agor un ar ran eich plentyn.
Os yw’ch plentyn yn ei arddegau yn 16 neu’n 17 oed, gall gymryd cyfrifoldeb dros ei gyfrif ei hun. Unwaith y bydd eich plentyn yn 18 oed, gall gael mynediad at ei gyfrif a thynnu arian allan ohoni.
Os nad oes gennych fanylion ei gyfrif, gall holi CThEF am enw darparwr ei gyfrif drwy lenwi ffurflen ar-lein. Bydd angen ei rif Yswiriant Gwladol arno i wneud hyn, ac mae hwn ar gael yn hawdd ar ap CThEF.
Dewch o hyd i'r cyfrif banc myfyrwyr perffaith
Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi adnewyddu ei declyn cymharu cyfrifon banc ar ei safle i ddefnyddwyr, HelpwrArian, i helpu i wneud dewis y cyfrif banc cywir yn symlach.
Un grŵp penodol a fydd yn elwa o'r teclyn yw myfyrwyr, gan fod y teclyn yn cynnwys hidlydd a ddyluniwyd yn benodol i gymharu cyfrifon banc myfyrwyr.
Deall eich slip cyflog
Boed yn rhywun sy’n cael ei slip cyflog cyntaf neu wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd, mae dal yn bwysig deall sut y cyfrifir eich cyflog.
Mae eich slip cyflog yn cynnwys llawer o wybodaeth bwysig, yn cynnwys eich rhif cyflogres, eich cyflog gros a net, ac fel arfer eich cod treth.
Mae’n bwysig eich bod yn deall eich slip cyflog a sut i wneud yn siŵr eich bod yn cael y swm cywir.
Mae gan bron pob gweithiwr yn y DU hawl i gael o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol os ydych yn 21 oed neu'n hŷn.
Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cael y gyfradd gywir, ac yn gwybod beth i'w wneud os nad ydych yn meddwl eich bod.
Arian myfyrwyr a graddedigion
Mae arian myfyrwyr yn fwy nag ond eich benthyciad myfyriwr.
Rydym wedi edrych ar gardiau credyd, cyfrifon banc ar gyfer pryd rydych yn astudio a phan fyddwch chi'n graddio, a'r ffyrdd gorau o ddelio ag unrhyw ddyledion y gallech fod wedi'u cronni.
Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach ac uwch
Os byddwch chi’n mynd ymlaen i ddilyn addysg bellach ac uwch a bod angen cymorth ariannol arnoch, mae rhai opsiynau ar gael.
Dyma’r grantiau, benthyciadau a’r bwrsarïau sydd ar gael yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a ble i fynd i gael mwy o wybodaeth.
YGam
Mae elusen YGam (dolen i wefan Saesneg yn unig) yn cynnig cymorth ac addysg i bobl ifanc sydd â phroblemau gamblo a hapchwarae.
Mae ei wefan yn cynnwys Hwb i fyfyrwyr (prifysgol yn bennaf) lle maent yn gallu derbyn mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael iddynt petai angen cefnogaeth ac addysg am gamblo.
‘Fy Ngherdyn Teithio’
Mae ‘Fy Ngherdyn Teithio’ yn cynnig i bobl ifanc 16 - 21 oed, disgownt o tua 30% ar deithiau bws yng Nghymru.
Mae’r holl gwmnïau bysiau sy’n cymryd rhan yn y cynllun ar gael yna: https://fyngherdynteithio.llyw.cymru/cy/mwy-am-dy-gerdyn/
Urddas Mislif yng Nghymunedau Ceredigion
Dyma gyfeiriadur o grwpiau, sefydliadau cymunedol a lleoliadau eraill sy'n cynnig cynhyrchion mislif am ddim i’r rhai sydd eu hangen.
Mae amrywiaeth o gynhyrchion ar gael ym mhob lleoliad gan gynnwys opsiynau eco-gyfeillgar, ddim yn cynnwys plastig neu'n ail-ddefnyddiadwy. Cymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch, ni ofynnir unrhyw gwestiynau.
Os ydych yn cysylltu ar ran grŵp neu fudiad cymunedol sy’n dymuno cynnig cynnyrch mislif am ddim i bobl yn eich cymuned leol, cysylltwch â urddasmislif@ceredigion.gov.uk
Cymorth am ddim gyda sgiliau rhifedd
Os rydych chi, neu rywun rydych chi’n cymhorthi, yn gweld hi’n anodd delio gydag arian, mae Dysgu Bro Ceredigion yn cynnig cyrsiau rhifedd am ddim er mwyn cynyddu eich hyder i gyfrifo biliau a chyllid y cartref.
Mae cyrsiau ar gael dros Geredigion, ar-lein neu mewn person, i unrhyw un dros 19 mlwydd oed. Cysylltwch â Dysgu Bro ar 01970 633 040 neu e-bostiwch admin@dysgubro.org.uk am fwy o fanylion.
Cymorth Gofal Plant
Chwilio am Ofal Plant?
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am help i ddewis a dod o hyd i ofal plant Gofal Plant a Chwarae - Cyngor Sir Ceredigion
Neu ewch i'r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Gwybodaeth Gofal Plant Cymru - Child Care Information Wales
Cefnogaeth gofal plant i blant 2 oed
Un o fentrau Llywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg. Mae’n darparu cymorth a chyfleoedd i deuluoedd â phlant o dan bedair oed.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cymorth gofal plant ar gyfer eich plentyn 2 oed gyda’n gwiriwr cod post: Dechrau’n Deg - Cyngor Sir Ceredigion
Cefnogaeth gofal plant i blant 3-4 oed
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr yr wythnos o Ddarpariaeth Dysgu Sylfaen (addysg gynnar) a gofal plant wedi ei ariannu ar gyfer rhieni cymwys sydd mewn gwaith ag sydd â phlant 3 a 4 oed, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.
Ewch i'n gwefan am ragor o wybodaeth Cynnig Gofal Plant i Gymru - Cyngor Sir Ceredigion
Help gyda chostau Gofal Plant
Mae gan y rhan fwyaf o deuluoedd hawl i gael rhywfaint o gymorth ariannol tuag at gost gofal plant. I gymharu'r gwahanol ddewisiadau a darganfod a ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau Gofal Plant ewch i Dewisiadau Gofal Plant.
Cofiwch ddewis Cymru gan fod cymorth yn wahanol i gymorth gofal plant Lloegr.
Ewch i wefan y Cyngor Sir am wybodaeth am gymorth costau byw : Cymorth Costau Byw - Cyngor Sir Ceredigion
Bydd y bwletin nesa’ yn dod allan ar 27.09.24.
Byddwn yn ffocysu ar ‘Bwyd’.
Os oes gennych wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys anfonwch neges atom ni at
clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881