Bathodyn Glas

Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn drefniant Ewropeaidd sy'n ymwneud â chonsesiynau parcio i bobl sy'n anabl neu sy’n cael anawsterau difrifol wrth gerdded neu sydd â nam gwybyddol difrifol.


Mae bathodyn glas ar gael i yrwyr a theithwyr. Diben y cynllun Ewropeaidd yw galluogi'r rhai sy'n meddu ar fathodyn (y person sydd wedi derbyn y bathodyn) i barcio'n agosach at eu cyrchfan.



Cardiau Teithio Rhatach

Cerdyn Teithio Rhatach i rywun 60 a throsodd


Mae gennych hawl i gael Cerdyn Teithio Rhatach os ydych chi'n 60 oed o leiaf, a'ch prif gartref yng Nghymru. Gwnewch gais am Gerdyn Teithio Rhatach yma.

Cerdyn Teithio Rhatach Cymru i Berson Anabl


Mae gennych hawl i gael Cerdyn Teithio Rhatach os ydych chi'n berson anabl cymwys, a'ch prif gartref yng Nghymru. Os ydych chi'n anabl a bod eich cyflwr yn cyfyngu ar eich gallu i deithio ar eich pen eich hun, efallai y byddwch chi'n gallu cael cerdyn cydymaith a fydd yn galluogi rhywun arall i deithio gyda chi am ddim.


Gwnewch gais am Gerdyn Teithio Rhatach yma.

Fy Ngherdyn Teithio


Cynllun teithiau rhatach yw Fyngherdynteithio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhoi tua 1/3 i ffwrdd ar docynnau bws i bobl ifanc 16-21 oed yng Nghymru. Mae yna 3 ffordd i wneud cais am Fyngherdynteithio, am fwy o wybodaeth: My Travel Pass :: Gwneud cais am y cerdyn (llyw.cymru)


Cardiau rheilffordd genedlaethol




Os oes angen i chi fynd ar daith trên, mae yn werth gwirio a fydd unrhyw un o'r cardiau rheilffordd genedlaethol yn addas i chi ac a fydd y gostyngiad ar gost eich tocyn yn arbed mwy na phris y cerdyn - £30 y flwyddyn neu £70 am dair blynedd. (Mae’r ddolen i wefan Saesneg yn unig).


Maent ar gael i bobl rhwng 16 a 30 oed, dros 60 oed, pobl anabl neu gyn-filwyr neu pan fydd teuluoedd a dau o bobl yn teithio gyda'i gilydd. Yn nodweddiadol mae'r pris yn cael ei leihau o draean.


Hawl i Deithio

Gall teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus fod yn anodd os ydych yn anabl. Pan fydd pethau'n mynd o'i le, gall fod yn anodd gwybod beth yw eich hawliau, neu sut i wneud cwyn. Yn enwedig pan fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu ar draws gwahanol ffynonellau.


Dywedodd dros chwarter y bobl anabl wrth Scope y bydden nhw'n fwy tebygol o wneud cwyn pe bai ganddyn nhw well dealltwriaeth o'u hawliau.


Rydym am i bob person anabl wybod eu hawliau a chael eu grymuso i weithredu pan fydd pethau'n mynd o chwith.


Dyna pam y gwnaeth Scope greu Hawl i Deithio (‘Right to Ride’ - dolen i ddogfen Saesneg yn unig), ein canllaw hawliau trafnidiaeth un stop newydd, a ddatblygwyd gyda'r Adran Drafnidiaeth.


Cymorth gyda chostau teithio GIG

Os oes angen i chi deithio i gael triniaeth GIG o dan ofal meddyg ymgynghorol, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth gyda chostau teithio angenrheidiol.

Efallai y byddwch yn gymwys os:


  • ydych chi’n cael budd-daliadau penodol
  • ydych chi’n derbyn incwm isel (dolen i’r cynllun incwm isel)
  • ydych chi’n 16 oed neu hŷn ond o dan 20 oed ac yn ddibynnydd i rywun sy’n cael budd-daliadau/credydau penodol
  • ydych chi’n 16 oed neu hŷn ac nad ydych yn ddibynnydd i rywun sy’n cael budd-daliadau neu gredydau, gallwch hawlio drosoch chi eich hun, hyd yn oed os ydych chi’n byw gyda’ch rhieni.

Os yw’r claf yn blentyn o dan 16 oed, incwm y rhiant sy’n cyfrif.

Os nad ydych yn siŵr pa gostau teithio y gallwch gael help gyda nhw, gofynnwch i'r ysbyty cyn i chi deithio.

Trafnidiaeth gymunedol

Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi


Mae nawr rhyw 10 mlynedd ers i fenter Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen gael defnydd o fws cymunedol oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion, ac fel rhan o brosiectau Ymlaen, sefydlwyd Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi.


Ers sefydlu, mae Dolen Teifi nawr yn rheoli 6 bws mini yn ogystal a 2 car Cady sydd yn cario cadeiriau olwyn ynghyd a 4 teithiwr, ac mae’r gwasanaeth yn awr yn ymestyn i Sir Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.


Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ar 01559 362403 neu info@dolenteifi.org.uk.

Bws Bro Aberteifi


Gwasanaeth bws mini yw Bws Bro Aberteifi sydd yn cael ei rhedeg gan Gymdeithas Cludiant Gwledig Preseli neu Bws y Ddraig Werdd fel y’i hadnabyddir – Mae ar gael yn Aberteifi a'r ardal gyfagos - gan gynnws Aberporth, Beulah, Llechryd, Llangoedmor, St Dogmaels, Penyparc, Parcllyn, i enwi rhai.


Rhedir y gwasanaeth mewn gwahanol ardaloedd ar dri diwrnod, dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 9.30 a 15.30. Gellir ei ddefnyddio gan un-rhywun sydd ddim yn gallu defnyddio gwasanaeth arferol cyhoeddus am ba bynnag reswm. Bydd teithwyr sydd yn gymwys am Docyn Teithio Rhad yn cael defnyddio’r bws am ddim , ond bydd tâl am unrhyw un arall. Rhaid i deithwyr archebu sedd 48 awr cyn y diwrnod trafaelu.


Cysylltwch gyda’r Ddraig Werdd ar 0845 686 0242, gadewch neges os ofynnir ac fe wnawn ffonio chi yn ôl.

Ceir Cefn Gwlad


Os nad ydych yn medru gwneud taith hanfodol oherwydd diffyg trafnidiaeth, efallai y bydd Ceir Cefn Gwlad Ceredigion yn gallu eich helpu.


Cynllun cludiant gwirfoddol yw Ceir Cefn Gwlad a gydlynir gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS). Cyngor Sir Ceredigion sy'n ei ariannu ac mae'r gwasanaeth yn cynnig trafnidiaeth i drigolion Ceredigion, beth bynnag yw eu hoedran, os nad oes ganddynt drafnidiaeth ar gyfer teithiau hanfodol. Bydd y tâl a godir yn dibynnu ar y milltiroedd a deithir. Nid yw Ceir Cefn Gwlad yn disodli'r gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus eraill a rhaid i'r gwasanaeth Ceir Cefn Gwlad gysylltu â'r gwasanaethau hynny lle bynnag y bo modd.


Mae teithiau hanfodol yn cynnwys y canlynol:


  • Ymweliadau â'r doctor, deintydd, ciropodydd, optegydd
  • Ymweliadau â ffrindiau neu berthnasau sy'n sâl
  • Cwrdd â gwasanaethau bysiau neu drenau
  • Siopa hanfodol
  • Casglu presgripsiynau
  • Busnes personol pwysig (cyfreithiwr, cyfrifydd, ac ati.)


I gael rhagor o wybodaeth, ymholiadau ynghylch cymhwysedd ac i archebu cysylltwch â: 0781 248 5809 neu robert.evans@royalvoluntaryservice.org.uk

Help gyda chostau teithio Adran Gwaith a Phensiynau

Cerdyn Disgownt Teithio Canolfan Gwaith


Darperir hyn i'r rhai di-waith sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol am 3-9 mis (pobl ifanc 18-24 oed) neu 3-12 mis (dros 25 oed). Efallai y bydd derbynwyr budd-daliadau eraill yn derbyn Cerdyn Disgownt Teithio Canolfan Gwaith o 3 mis o'u cais ac os ydynt yn ymwneud yn weithredol â chynghorydd Canolfan Byd Gwaith. Mae gan ddeiliaid cardiau hawl i ostyngiad o 50% ar docynnau trên dethol.



Os cewch eich galw i mewn i'r Ganolfan Waith am apwyntiad, weithiau gellir ad-dalu tocynnau bws (gan y Ganolfan Waith). Cysylltwch â'ch anogwr gwaith am fwy o wybodaeth am hyn.

Teithio Llesol


Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion yn gweithio i wella ein rhwydwaith Teithio Llesol. Un o'r pethau am fynd o gwmpas o dan eich stêm eich hun yw ei fod yn rhad iawn. Dim treth car, dim MOT a dim pryderon pris petrol. Mae beiciau trydan yn gwneud bryniau neu deithiau hirach ychydig yn haws.


Gall y map rhyngweithiol hwn helpu i gynllunio'ch taith ar feic Bike map | Cycle route planner | cycle.travel (Dolen i wefan Saesneg yn unig).


Hyfforddiant Beicio Am Ddim


Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig hyfforddiant beicio i oedolion a phobl ifanc cymwys yn eich ardal lleol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Ceredigion ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

Electric Bike Charging Station in City

Cynllun Beicio i'r Gwaith


Mae'r "Cynllun Beicio i'r Gwaith" di-dreth yn fenter gan y Llywodraeth. Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau yn tynnu cost beic newydd o'ch cyflog gros, nid eich enillion net. Mae hynny'n golygu nad ydych yn talu treth incwm nac yswiriant gwladol ar y taliadau rydych chi'n eu gwneud ar y beic. Dyma le rydych chi'n arbed arian.


Mae trethdalwr cyfradd sylfaenol fel arfer yn talu treth incwm o 20% ac yswiriant cenedlaethol o 12%, felly byddai'n arbed 32%. Mae'r taliadau'n cael eu tynnu allan o'ch cyflog dros 12 neu 18 mis.


Yn ogystal â'ch cynilion beicio i'r gwaith, am daith ddyddiol o 3 milltir, amcangyfrifir y gallech arbed tua £100 bob blwyddyn ar danwydd hefyd.


Gofynnwch i'ch cyflogwr os yw wedi cofrestru ar gyfer y cynllun hwn.

Cycling Outline Icon

Rhannu Ceir

Rhannu ceir yw pan fydd dau neu fwy o bobl yn rhannu car, ac yn teithio gyda'i gilydd, i leihau'r nifer o bobl sy'n teithio ar eu pennau eu hunain mewn ceir.

Mae manteision Rhannu Ceir yn cynnwys y canlynol:

• Arbed arian

• Lleihau eich ôl troed carbon

• Helpu lleihau tagfeydd traffig

• Creu llai o broblemau parcio

• Cynnig cludiant mewn mannau lle nad oes cludiant cyhoeddus

Mae TraCC a Liftshare, sefydliad rhannu ceir mwyaf y Deyrnas Unedig, wedi dod ynghyd i ddatblygu cronfa ddata ar gyfer ardal Canolbarth Cymru o'r enw Rhannu Car Canolbarth Cymru (Dolen i wefan Saesneg yn unig).

Green Car Sharing with Group of People Icon Isolated. Carsharing Sign. Transport Renting Service Concept. Long Shadow Style. Vector Illustration

Ewch i wefan y Cyngor Sir am wybodaeth am gymorth costau byw :

Cymorth Costau Byw - Cyngor Sir Ceredigion

Bydd y E-fwletin nesa’ yn dod allan ar 10.05.24.

Byddwn yn ffocysu ar ‘Cymorth gyda’r Blynyddoedd Cynnar’.

Os oes gennych wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys anfonwch at Clic neu ffoniwch 01545 570881