E-Fwletin Costau Byw Ceredigion – ‘Macsimeiddio Incwm’
6. Turn2us & Helpwr PIP Turn2us
7. Y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF)
8. Ymestynnwch hawliad Budd-dal Plant eich plentyn yn ei arddegau heddiw
9. Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
11. Urddas Mislif yng Nghymunedau Ceredigion
13. Lwfans Priodasol
14. Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru
15. Cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cynghori
Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i helpu gyda’ch costau byw os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Gall Credyd Pensiwn hefyd helpu gyda chostau tai fel rhent daear neu daliadau gwasanaeth. Defnyddiwch y gyfrifiannell Credyd Pensiwn i weithio allan faint y gallwch ei gael.
Mae StepChange (dolen i wefan Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor hyblig ac am ddim ar ddyledion sy'n seiliedig ar asesiad cynhwysfawr o'ch sefyllfa. Bydden wedyn yn darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol am ba mor hir y mae ei angen.
Mae HOPE4U (dolen i wefan Saesneg yn unig) yn credu bod pawb yn haeddu cyfle mewn bywyd, a dyna pam ein pwrpas a'n nod yw dileu tlodi, gwella cynaliadwyedd ariannol; wrth greu cyfleoedd i bobl adeiladu dyfodol mwy disglair. Gall HOPE4U gefnogi gyda chyfleustodau, rheoli arian, effeithlonrwydd ynni a diweithdra.
Mae RABI (dolen i wefan Saesneg yn unig) wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghenion unigol pobl sy'n ffermio. Rydym yn cynnig cymorth, cyngor ac arweiniad arbenigol un-i-un, wedi'u teilwra i bob amgylchiad unigryw. Rydym yn rhoi cyngor arbenigol ar fudd-daliadau a allai fod ar gael i bobl sy'n ffermio.
Mae ein llinell gymorth rhadffôn 24/7 0800 188 4444 yn sicrhau ein bod ar gael ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r flwyddyn i roi'r math cywir o gefnogaeth i bobl sy'n ffermio.
Mae grantiau o £200 y plentyn (dolen i wefan Saesneg yn unig) ar gael i blant ysgol 4-16 oed, gan ddarparu cymorth hanfodol i leddfu'r baich ariannol a sicrhau bod gan bob plentyn yr hyn sydd ei angen arnynt i lwyddo. Gwnewch gais o ddydd Llun 8 Gorffennaf a gadewch i RABI gefnogi'ch teulu.
Cyfrifiannell Hawl
Mae Cyfrifiannell Budd-dal Cyngor Sir Ceredigion yn amcangyfrif eich hawl i Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor ar unwaith yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Bydd yn cymryd dim ond ychydig o funudau i gwblhau ac i roi gwybod i chi a ydych yn debygol o fod yn gymwys cyn i chi lenwi ein Ffurflen Gais
Turn2us & Helpwr PIP Turn2us
Mae Turn2us (dolen i wefan Saesneg yn unig) yn elusen genedlaethol sy'n cynnig gwybodaeth a chymorth ymarferol i bobl sy'n wynebu ansicrwydd ariannol.
Wedi'i gynllunio ochr yn ochr â phobl sydd wedi hawlio PIP, mae'r Helpwr PIP Turn2us (dolen i wefan Saesneg yn unig) yn offeryn gwybodaeth ar-lein hygyrch y gall pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor ei ddefnyddio i ddechrau eu hawliad PIP yn hyderus.
Mae'r Helpwr PIP Turn2us yn cynnig gwybodaeth ar gyfer pob cam o'r broses ymgeisio PIP, gwiriadau ar ba ddyfarniad PIP rydych chi'n debygol o'i gael, yn darparu awgrymiadau personol ar lenwi'r ffurflen gais a gall ddod o hyd i help ychwanegol yn seiliedig ar eich dyfarniad PIP.
Y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF)
O dan rai amgylchiadau gallech fod yn gymwys i gael Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) neu Daliad Cymorth i Unigolion (IAP). Gallwch ddarganfod a allech gael grant o Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) Llywodraeth Cymru.
Ymestynnwch hawliad Budd-dal Plant eich plentyn yn ei arddegau heddiw
Mae’n bryd i rieni ledled y DU ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant os yw eu plentyn yn 16 i 19 oed ac yn parhau mewn addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch neu hyfforddiant cymeradwy. Rydym yn gwybod pa mor bwysig y gall Budd-dal Plant fod i deuluoedd, felly rhowch wybod i CThEF erbyn 31 Awst os yw’ch plentyn yn bwriadu parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy.
Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, mae’n bosibl bod arian annisgwyl yn aros amdano!
Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo hirdymor sy’n rhydd o dreth – sy’n werth £2,000 ar gyfartaledd. Os na wnaethoch agor y cyfrif, mae’n bosib bod CThEF wedi agor un ar ran eich plentyn.
Os yw’ch plentyn yn ei arddegau yn 16 neu’n 17 oed, gall gymryd cyfrifoldeb dros ei gyfrif ei hun. Unwaith y bydd eich plentyn yn 18 oed, gall gael mynediad at ei gyfrif a thynnu arian allan ohoni.
Os nad oes gennych fanylion ei gyfrif, gall holi CThEF am enw darparwr ei gyfrif drwy lenwi ffurflen ar-lein. Bydd angen ei rif Yswiriant Gwladol arno i wneud hyn, ac mae hwn ar gael yn hawdd ar ap CThEF.
Nyth
Mae Nyth yma i’ch helpu gyda chyngor diduedd am ddim y gallwch ymddiried ynddo. Gallwn ddarparu cyngor am effeithlonrwydd ynni ac os ydych yn gymwys, cynnig cymorth i osod gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn eich cartref. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cymorth a'r cyngor arbed ynni y gall Nyth ei ddarparu o'n gwefan.
Urddas Mislif yng Nghymunedau Ceredigion
Dyma gyfeiriadur o grwpiau, sefydliadau cymunedol a lleoliadau eraill sy'n cynnig cynhyrchion mislif am ddim i’r rhai sydd eu hangen. Mae amrywiaeth o gynhyrchion ar gael ym mhob lleoliad gan gynnwys opsiynau eco-gyfeillgar, ddim yn cynnwys plastig neu'n ail-ddefnyddiadwy. Cymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch, ni ofynnir unrhyw gwestiynau.
Os ydych yn cysylltu ar ran grŵp neu fudiad cymunedol sy’n dymuno cynnig cynnyrch mislif am ddim i bobl yn eich cymuned leol, cysylltwch â urddasmislif@ceredigion.gov.uk.
Ymwybyddiaeth Sgamiau
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau, gan gynnwys rhai digidol, ar garreg eich drws, dros y ffôn a drwy’r post. Ewch i'n tudalen Sgamiau am ragor o wybodaeth.
Lwfans Priodasol
Mae’r Lwfans Priodasol yn caniatáu i chi drosglwyddo £1,260 o’ch Lwfans Personol i’ch priod neu bartner sifil. Gall hyn ostwng treth eich priod neu bartner sifil hyd at £252 yn ystod y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf). Ewch i’r tudalen ‘Lwfans Priodasol’ ar wefan Llywodraeth y DU am ragor o wybodaeth
Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru
Mae’r faith bod dros filiwn o oedolion yn y DU wedi cael benthyg gan siarc benthyg arian ac yn dioddef o ganlyniad yn frawychus. Wrth i’r argyfwng costau byw barhau, mae’n bosib y bydd mwy o bobl yn cael eu gorfodi i fynd i ddyled ac yn troi at gael benthyg gan fenthycwyr arian anghyfreithlon neu siarcod benthyg arian.
Mae Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru yn cael ei weithredu gan Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru. Ers 2008, mae nhw wedi cefnogi cannoedd o bobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r drosedd hon, ac wedi dileu gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o ddyled anghyfreithlon. Ewch i wefan Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru i weld sut allant nhw helpu.
Cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cynghori
Os ydych yn grŵp sy'n cefnogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm, gallech wneud cais am grant o’r Gronfa Gynghori Sengl Lywodraeth Cymru.
Nod y Gronfa Gynghori Sengl yw rhoi help i ymateb i’r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau cynghori ar faterion lles cymdeithasol.
Cysylltu Ceredigion
Cysylltu cymunedau, pobl a grwpiau, a rhannu digwyddiadau ar draws Ceredigion.
Mae'r rhan fwyaf o sesiynau cyngor galw heibio ledled Ceredigion a all eich cefnogi i wneud y mwyaf o'ch incwm wedi'u rhestru o dan y calendr ddigwyddiadau ar Cysylltu Ceredigion.
Cymorth Gofal Plant
Chwilio am Ofal Plant?
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am help i ddewis a dod o hyd i ofal plant Gofal Plant a
Chwarae - Cyngor Sir Ceredigion
Neu ewch i'r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Gwybodaeth Gofal Plant Cymru.
Mae clybiau gwyliau wedi'u rhestru yma. Efallai y bydd gwarchodwyr plant yn medru cynnig
lleoedd mewn rhai ardaloedd.
Help gyda chostau Gofal Plant
Mae gan y rhan fwyaf o deuluoedd hawl i gael rhywfaint o gymorth ariannol tuag at gost gofal plant. I gymharu'r gwahanol ddewisiadau a darganfod â ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau Gofal Plant ewch i Dewisiadau Gofal Plant. Cofiwch ddewis Cymru gan fod cymorth yn wahanol i gymorth gofal plant Lloegr.
Cynnig Gofal Plant
Yn ystod gwyliau'r ysgol, gall plant cymwys dderbyn hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant wedi'i ariannu, am hyd at naw wythnos o wyliau y flwyddyn. Mae hyn yn cael ei archebu drwy eich cyfrif Cynnig Gofal Plant ar-lein. Am fwy o wybodaeth, ewch i Rhieni yn rheoli cytundebau Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU
Bydd y E-fwletin nesa’ yn dod allan ar 30ain o Awst.
Byddwn yn ffocysu ar ‘Cymorth i bobl ifanc- addysg ariannol’.
Os oes gennych wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys anfonwch neges atom ni at clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881