Cefnogaeth i blant anabl ag plant ac anghenion ychwanegol

Cynllun Cyfeirio


Mae Cynllun Cyfeirio yn cefnogi plant 2-4 oed gydag anabledd a / neu anghenion ychwanegol i gymryd rhan mewn chwarae addysgol a chyfleoedd dysgu yn ystod y tymor mewn lleoliadau cofrestredig cyn-ysgol.

Gwneir atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol, rhieni neu staff lleoliadau cyn-ysgol i Banel aml asiantaeth i'w gymeradwyo.

Ariennir y cynllun gan Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru a chyllid Cyngor Sir Ceredigion, a'i rheolir gan Fudiad Meithrin.






YMUNO


Mae Cynllun YMUNO yn cefnogi plant 3-14 oed gydag anghenion ychwanegol (hyd at 18 oed os yw’n anabl) sydd angen cymorth ychwanegol i fynychu gofal plant cofrestredig gan gynnwys clwb ar ôl ysgol, cynllun chwarae gwyliau a darpariaeth chwarae agored, er mwyn darparu cyfleoedd chwarae cynhwysol a gofal plant yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Ariennir y cynllun gan Gyngor Sir Ceredigion a'i reoli’r gan DASH Ceredigion.

Gall rhieni ofyn am fanylion yn eu clwb ar ôl ysgol leol neu glwb gwyliau neu sesiwn chwarae mynediad agored.




Gofal Plant Di-dreth


Gyda Gofal Plant Di-dreth (dolen i wefan Saesneg) gallwch gael hyd at £500 bob 3 mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) ar gyfer pob un o'ch plant i helpu gyda chostau gofal plant. Mae hyn yn codi i £1,000 bob 3 mis os yw plentyn yn anabl (hyd at £4,000 y flwyddyn).



Rhestr o Gymorth i Ofalwyr a gydag Argyfwng Costau Byw 2024



Mae Fforwm Cymru Gyfan wedi creu'r rhestr hon (dolen i wefan Saesneg yn unig) o sefydliadau ac awdurdodau sy'n darparu cyngor, grantiau a chyllid posibl i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw. O dan hynny, gallwch ddod o hyd i restr o wasanaethau lleol i gefnogi gofalwyr ochr yn ochr â gwasanaethau a hybiau'r awdurdodau lleol.


Tîm Cymorth Cyflogadwyedd


Rydym yn cefnogi trigolion Ceredigion nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant gyda chymorth mentora cyflogadwyedd 1:1, uwch sgilio, hyfforddiant, mewn cymorth gwaith a llawer mwy. Rydym yn gweithio gydag ystod eang o unigolion gan gynnwys y rhai sydd â chyflwr iechyd cyfyngedig yn y gwaith, gofalwyr, menywod (a rhieni unigol), cymunedau ethnig amrywiol a llawer mwy.

Cysylltwch â ni heddiw ar tcc-est@ceredigion.gov.uk neu dewch o hyd i ni ar Facebook-Cymorth Gwaith Ceredigion Cymorth Gwaith ac Instagram: @cymorthgwaithceredworksupport i gael gwybod mwy.





ELITE Supported Employment


Mae ELITE Supported Employment (dolen i wefan Saesneg yn unig) yn elusen sy'n grymuso pobl anabl neu'r rhai sydd dan anfantais ar draws De, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae ELITE yn cefnogi cannoedd o bobl anabl, neu'n wynebu anfantais, bob blwyddyn gyda chyfleoedd galwedigaethol, hyfforddiant a chyflogaeth hyd at annibyniaeth. Manylion cyswllt: 01443 226664 neu e-bost: information@elitesea.co.uk



Mynediad i Waith DWP


Cefnogir pob Canolfan Waith gan Gynghorydd Cyflogaeth Anabledd sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig. Maent ar gael i Hyfforddwyr Gwaith ofyn am gyngor ar ddarparu cymorth ar gyfer achosion penodol. Maent yn cynnig cefnogaeth a chyngor i bobl ag anableddau a'u teuluoedd. Yn benodol, maent yn helpu pobl anabl i gael mynediad at adnoddau a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â swydd.


Mynediad i Waith DWP: gallwch wneud cais am:

·Grant i helpu i dalu am gymorth ymarferol gyda'ch gwaith

·Cefnogaeth i reoli eich iechyd meddwl yn y gwaith

·Arian i dalu am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau swydd





Scope


Mae Scope (dolen i wefan Saesneg yn unig) yn cynnig rhaglen cymorth i weithio i bobl anabl yng Nghymru a Lloegr, sy'n chwilio am waith cyflogedig. Mae cynghorwyr cyflogaeth arbenigol yn rhoi cyngor ar-lein a dros y ffôn a gallant eich cefnogi gyda sawl agwedd ar chwilio am waith cyflogedig.Manylion cyswllt: 0300 222 5742 neu e-bost: supporttowork@scope.org.uk.



Care and Repair


Mae Care & Repair Cymru yn elusen sy'n gweithio i sicrhau bod pobl anabl yn gallu byw'n annibynnol mewn cartrefi diogel, cynnes a hygyrch. Maent yn cynnig asesiadau cartref, atgyweiriadau cartref, diogelwch yn y cartref, cynhesrwydd cartref a chymorth anabledd a llawer mwy o wasanaethau. Cysylltwch â Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ar: 01437 766717 neu hello@wwcr.co.uk




Grant Cyfleusterau i'r Anabl


Mae Grant Cyfleusterau i'r Anabl i bobl anabl i dalu am offer ac addasiadau anabledd er mwyn galluogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartref.



Galluogi Gofal drwy Dechnoleg


Galluogi Gofal drwy dechnoleg yw’r defnydd a wneir o dechnoleg er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal i bobl yn eu cartrefi eu hun, gan gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel. Enghraifft o hyn yw cael ‘lifeline’ sef botwm y gellir ei wasgu i alw am gymorth caiff ei wisgo fel pendant.




Golwg yn Wael/ Colli eich Clyw


Yng Ngheredigion, mae ystod eang o wasanaethau ar gael i helpu pobl sydd â nam synhwyraidd i fod mor annibynnol ag y bo modd a rheoli eu bywydau eu hunain gymaint ag y bo modd.


Nam synhwyraidd yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio anableddau fel:

Dallineb/Nam ar y golwg

Byddardod/Colli eich clyw

Dallineb byddar (Colled golwg a chlyw)




Y Cynllun Waled Oren



Mae’r Cynllun Waled Oren yn brosiect ar y cyd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o strategaeth Anhwylderau Sbectrwm Awtistig Cymru Gyfan.

Os gallai’r Waled Oren eich cefnogi chi wrth deithio gyda ni, cysylltwch â ni gyda’ch cyfeiriad llawn ac fe anfonwn ni waled atoch chi:

Dros y ffôn: ffoniwch ni ar 03333 211 202

Ffurflen ar-lein: cliciwch yma

Wyneb yn wyneb: mae'r waledi hyn ar gael mewn rhai llyfrgelloedd - i gael manylion ewch i wefan Anhwylderau Sbectrwm Awtistig Cymru




AskSARA


Mae AskSARA yn ganllaw hunangymorth arobryn ar-lein sy'n darparu cyngor a gwybodaeth arbenigol ar gynhyrchion ac offer ar gyfer pobl hŷn ac anabl.


Mae AskSARA yn hawdd ei ddefnyddio. Yn syml:

  1. Dewiswch pa bwnc yr hoffech chi ei helpu a'i gefnogi
  2. Atebwch rai cwestiynau amdanoch chi'ch hun a'ch amgylchedd


Bydd AskSARA yn cynhyrchu adroddiad personol am ddim sy'n darparu:


Cyngor clir, wedi'i deilwra gan arbenigwyr ar ffyrdd o helpu gyda gweithgareddau dyddiol ac aros yn annibynnol yn eich cartref

Rhestr ddiduedd o gynhyrchion ac offer, sy'n benodol i'ch anghenion, gyda gwybodaeth am ble i'w cael

Cymorth a chysylltiadau pellach am fwy o wybodaeth

Opsiwn i arbed eich adroddiad a'i rannu gyda theulu, ffrindiau a gweithwyr gofal.



Bathodyn Glas



Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn drefniant Ewropeaidd sy'n ymwneud â chonsesiynau parcio i bobl sy'n anabl neu sy’n cael anawsterau difrifol wrth gerdded neu sydd â nam gwybyddol difrifol.


Mae bathodyn glas ar gael i yrwyr a theithwyr. Diben y cynllun Ewropeaidd yw galluogi'r rhai sy'n meddu ar fathodyn (y person sydd wedi derbyn y bathodyn) i barcio'n agosach at eu cyrchfan.




Cefnogaeth i bobl ag arthritis




Gall byw gydag arthritis arwain at gostau ychwanegol, ac rydym yn gwybod bod yr argyfwng costau byw yn anoddach i lawer o bobl.

Gallwn gynnig help a chyngor i'r rhai sydd ag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol.


Cyfraddau Budd-daliadau



Gweler cyfraddau budd-dal a phensiynau (dolen i wefan Saesneg yn unig) wedi'u diweddaru 2024 i 2025.



Ewch i wefan y Cyngor Sir am wybodaeth am gymorth costau byw :

Cymorth Costau Byw - Cyngor Sir Ceredigion


Bydd y E-fwletin nesa’ yn dod allan ar 10.05.24.

Byddwn yn ffocysu ar ‘Teithio a Thrafnidiaeth’.

Os oes gennych wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys anfonwch at Clic neu ffoniwch 01545 570881

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am ein e-fwletin trwy ateb dau gwestiwn.

Cliciwch yma ar gyfer yr arolwg