Bwletin Costau Byw Ceredigion: Cefnogaeth dros y Nadolig
Cliciwch ar y pwnc i fynd yn syth i'r dudalen
Mae tymor y Nadolig yn gyfnod o lawenydd a chymdeithasu, ond gall
hefyd fod yn heriol i lawer ohonom.
Yng Ngheredigion, mae amrywiaeth o sefydliadau, cyrff cyhoeddus a
busnesau yn cynnig cymorth i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau
Nadolig cynnes a chyfforddus.
Isod mae canllaw i'r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys prydau am
ddim, gwasanaethau hanfodol a digwyddiadau cymunedol.
Nadolig yng Ngheredigion
Tafarn Rhos yr Hafod, Cross Inn
21 Rhagfyr - 10:30yb
Bore coffi Nadoligaidd.
'Yr Hwb', 78 Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan.
Ar agor pob Dydd Gwener 12yp - 2yp ar gyfer pryd o fwyd poeth a lluniaeth. Rhan o Gymdeithas Gristnogol Emaus.
Home Cafe, Aberystwyth
25 Rhagfyr - 12yp
Ffoniwch 01970 617513 i archebu eich lle.
Bydd bwyd, diod ac anrhegion ar gael.
Eglwys ‘New Life’ Aberteifi
25 Rhagfyr - 1yp
Ffoniwch swyddfa'r eglwys ar 01239 615864 i fynychu.
Prydau am Ddim
Banciau Bwyd
Banc Bwyd Aberteifi
Ar agor fel arfer dros gyfnod y Nadolig. Cau yn
gynnar (2yp) ar 24 a 31 Rhagfyr.
07949 127307
Banc Bwyd Llambed
07582 905742
23 Rhagfyr 9yb-5yp, 24 Rhagfyr 9yb-1yp,
27 Rhagfyr 9yb-5yp, 31 Rhagfyr 9yb-1yp,
2 Ionawr 9yb-1yp, 3 Ionawr 9yb-5yp
Banc Bwyd Llandysul
01559 363874
Banc Bwyd Aberaeron
Llinell ffôn ar agor Dydd Llun i Ddydd Gwener
9yb - 5yp
07765 737108
Banc Bwyd Eglwys Aberaeron 5k+
01545 570433
Storfa Jiwbilî (Penparcau)
0800 2425844
Llinell ffôn ar agor 9yb - 1yp
Ar agor 23-24 Rhagfyr - 10yb- 2yp
Ar agor 27,30-31 Rhagfyr - 12yp-2yp
Ceir rhagor o fanylion ar wefan y cyngor.
Oriau Agor y Nadolig
Dydd Llun 23 Rhagfyr: mae ein Llinell Gyngor (01239 621974 / 01970 612817) ar agor 10yb – 1yp a
byddwn yn ateb ymholiadau trwy Messenger, WhatsApp a thestun (07971 802060), ac ar e-bost:
gofyn@cabceredigion.org
AR GAU o ddydd Mawrth 24 Rhagfyr tan ddydd Mercher 1 Ionawr – gweler isod am oriau llinell
Cyngor ar Bopeth Cymru
Dydd Iau 2 Ionawr: mae ein Llinell Gyngor (01239 621974 / 01970 612817) ar agor 10yb – 1yp a
byddwn yn ateb ymholiadau drwy Messenger, WhatsApp a thestun (07971 802060), ac ar e-bost:
gofyn@cabceredigion.org
Oriau agor Cyngor ar Bopeth Cymru (AdviceLink) - 0800 702 2020
Cyngor ar Bopeth Ceredigion
Gyda'r cap ar brisiau ynni ar fin codi eto o 1 Ionawr,
efallai eich bod yn poeni am eich biliau gwresogi.
Gallwch glicio ar y ddolen isod i archebu eitemau AM
DDIM i helpu i’ch cadw chi a’ch cartref yn gynnes y
gaeaf hwn:
Canolfan Cyngor ar Bopeth - Arolwg i Ofyn am
Eitemau Arbed Ynni Am Ddim (Saesneg yn unig)
Cyflenwadau Ynni am Ddim gan Cyngor ar Bopeth
Mae'r map hwn yn dangos y Mannau
Croeso Cynnes yng Ngheredigion.
Mae'r manylion yn cynnwys amseroedd
agor a syniad o'r hyn y byddwch yn ei
ddarganfod pan fyddwch yn cyrraedd.
Gallwch lawrlwytho manylion y map ar
ffurf rhestr yma: Mannau Croeso Cynnes
Ceredigion.
Cysylltwch â 01545 570881 neu
clic@ceredigion.gov.uk os hoffech i'r
rhestr gael ei hargraffu a'i phostio atoch.
Mannau Croeso Cynnes
Dewch ynghyd â'ch cymuned leol mewn Gwasanaeth Carolau neu Blygain. Dyma rai o’r
gwasanaethau niferus a fydd yn cael eu cynnal dros gyfnod y Nadolig.
Eglwys St David’s, Aberystwyth
22 Rhagfyr, 2yp, Carolau yng Ngolau Cannwyll
Eglwys St Mary’s, Aberteifi
22 Rhagfyr, 5yp, Carolau Nadolig
Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth
22 Rhagfyr, 9:45yb, Gwasanaeth Carolau yn Gymraeg
Hen Gapel Llwynrhydowen
24 Rhagfyr, 9yp, Gwasanaeth Carolau
Eglwys Padarn Sant, Aberystwyth
24 Rhagfyr, 3yp, Carolau Teulu
Carolau a Phlygain
22 Rhagfyr
- Eglwys Blêr yn mynd yn wyllt, dathliad Nadolig dan do. 2yp Ysgol
Plascrug. - MegaNativity, 5yp, Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth
24 Rhagfyr
- Groto Siôn Corn, 3yp, Neuadd Goffa Cei Newydd
- Gwasanaeth Cristingl, 4yp, Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth
- Noson Meic Agored Nadolig, 6pm, Bank Vault, Aberystwyth
28 Rhagfyr
- Caffi Trwsio Llandudoch, 10am, Neuadd Goffa, Llandudoch
Gweithgareddau Am Ddim
Mae nifer o archfarchnadoedd wedi gostwng prisiau llysiau cyn y Nadolig.
Lidl - 9c yr un
300g Shibwns | Swedsen | 1kg Moron 15c | 2kg Tatws Gwyn 15c | 500g Pannas | 500g Ysgewyll
Aldi - 15c yr un
Tatws Gwyn 2kg | 1kg Moron | 500g Pannas | Bresych Gwyn neu Goch | 500g Ysgewyll | Brocoli
Morrisons - 10c yr un gyda Cherdyn ‘More’
1kg Moron | 500g Pannas | 500g Ysgewyll | Swedsen
Tesco - 15c yr un gyda Cherdyn Clwb
Tatws Gwyn 2kg | 1kg Moron | 500g Pannas | 500g Ysgewyll | Brocoli | Swedsen | Bresych Coch
Sainsbury’s - 15c yr un gyda Cherdyn ‘More’
1kg Moron | 500g Pannas | Tatws Gwyn 2kg | Swedsen | Bresych Gwyn neu Goch | 500g Ysgewyll
Llysiau Nadolig Cost Isel
Os cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1958 gallech gael Taliad
Tanwydd Gaeaf o naill ai £200 neu £300 i’ch helpu i dalu eich
biliau gwresogi ar gyfer gaeaf 2024 i 2025.
Telir y rhan fwyaf o bobl gymwys ym mis Tachwedd neu fis
Rhagfyr. Os ydych chi’n gymwys, fe gewch lythyr ym mis
Hydref neu fis Tachwedd yn dweud faint fyddwch chi’n ei gael.
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth y DU - Taliad
Tanwydd Gaeaf.
Os ydych wedi clywed am y newidiadau i Daliadau Tanwydd
Gaeaf, byddwch yn ymwybodol bod yn rhaid i chi wneud cais
am Gredyd Pensiwn erbyn 21 Rhagfyr 2024 i fod yn gymwys ar
gyfer Taliad Tanwydd Gaeaf 2024 i 2025.
Taliad Tanwydd Gaeaf
Cyngor Sir Ceredigion
Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, mae
Cymorth Tai yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth i
drigolion Ceredigion, er mwyn cynnal eich tenantiaeth a byw’n
annibynnol yn y gymuned. Gallwch gael cymorth ar wefan y cyngor.
Y Gymdeithas Gofal
Gall y Gymdeithas Gofal gynnig cymorth gydag ôl-ddyledion, budd-
daliadau, asesiadau, tai, lles, trais yn y cartref, troi allan,
blaendaliadau a blaendaliadau rhent a nwyddau cartref.
Os oes angen ein cymorth arnoch, galwch i mewn i un o’n
swyddfeydd:
- 21 Ffordd y Môr, Aberystwyth
- 12 Stryd Fawr, Aberteifi
Neu ffoniwch 07790 988599
Cefnogaeth Tai a Digartrefedd
Oriau Cyngor Sir Ceredigion dros y Nadolig
Bydd gwasanaethau’r Cyngor yn cau am 3yp ar Ddydd Mawrth Rhagfyr 24.
Bydd gwasanaethau’n ail-agor ar Ddydd Gwener Rhagfyr 27.
Manylion cyswllt tu allan i oriau swyddfa:
Argyfyngau Gwasanaethau Cymdeithasol: 0300 4563554
Tîm argyfyngau’r Priffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol:
Gogledd: 01970 625277
De: 01239 851604
Bydd gwasanaethau’r Cyngor Sir hefyd ar gau Dydd Mercher 1 Ionawr.
Ein manylion cyswllt arferol yw:
01545 570881 (yn ystod oriau swyddfa)
- Mae llawer o sôn am fwyd dros y Nadolig ond beth am y
system fwyd? Cwblhewch yr arolwg hwn i helpu ein
Partneriaeth Bwyd Lleol i greu newid.
Bydd yr arolwg ar-lein yn cymryd tua 10 munud i'w
gwblhau. Mae'r arolwg hwn hefyd ar gael ar bapur ac fel
dogfen Word.
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, neu angen copïau
papur, anfonwch e-bost at ann.owen@mentera.cymru
Arolwg Bwyd Da Ceredigion
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Nod ymgyrch Rhowch Anrheg 2024 yw darparu tamaid o hud i
blant a phobl ifanc ledled gorllewin Cymru sy'n derbyn gofal y
GIG.
I gyfrannu gallwch brynu anrheg i blentyn neu berson ifanc
oddi ar eu rhestr ddymuniadau Amazon (Saesneg yn unig)
Banciau Bwyd
Mae pob un o'n banciau bwyd yn derbyn rhoddion trwy gydol
mis Rhagfyr. Ewch i'r dudalen uchod i gysylltu â nhw'n
uniongyrchol neu rhowch eich rhoddion yn un o'u mannau
casglu niferus.
Rhoi rhywbeth yn ôl

Ewch i wefan y Cyngor Sir i gael gwybodaeth am gymorth costau byw
Bydd y bwletin nesaf yn cael ei gyhoeddi ar 24 Ionawr. Byddwn yn canolbwyntio ar ‘Ynysu
cymdeithasol ac unigrwydd’.
Cysylltwch â ni os oes gennych wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys
E-bost: clic@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 570881